CorLogo1

  Côr Meibion Bro Glyndŵr

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989

Hanes y côr

CorLogo1

Cafodd y côr ei sefydlu yn 1973 dan arweiniad Robin Williams er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Powys y flwyddyn honno. Ers hynny mae’r côr wedi ennill llawer o wobrau eisteddfodol ac wedi teithio’n eang o fewn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Ar ei daith dramor ddiwethaf aeth y côr i ’s-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd i gymryd rhan yn y gwasanaeth coffa a gynhelir yn flynyddol i gofio rhyddhau’r ddinas ym mis Hydref 1944 gan filwyr o’r 53fed Adran Gymreig o fyddin Prydain. Roedd yr ymweliad â’r Iseldiroedd hefyd yn caniatáu i’r côr adnewyddu’r cyswllt a sefydlwyd ers tro â Chôr Meibion Maasbre.

Bu’r côr yn llwyddiannus mewn cystadlaethau corawl cenedlaethol yng Nghymru ac yn yr Alban. Côr Meibion Bro Glyndŵr oedd y côr cyntaf o Gymru i gystadlu ym ‘Mod’ yr Alban, yr ŵyl sy’n cyfateb i Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bu aelodau côr yn cyfrannu fwy nag unwaith i’r gwyliau corawl unedig a gynhelir yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain. Bu’n ymddangos ar y teledu nifer o weithiau mewn cystadlaethau a hefyd yn rhialtwch y rhaglen Bargain Hunt gyda David Dickenson.

Yn dilyn ymddeoliad Robin Williams fel Cyfarwyddwr Cerdd cyntaf y côr, daeth Ann Atkinson yn arweinydd am y tro cyntaf o 1985 hyd 1990 pan adawodd i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yna daeth y cyfeilydd, Gwerfyl Williams, yn arweinydd, gyda Paul Johns yn ei dilyn hithau hyd ei ymddeoliad yn 1995. Daeth Ann i ymgymryd â’r arweinyddiaeth unwaith eto gyda Gwerfyl yn ddirprwy iddi. Erbyn hyn mae Ann wedi gwneud ei henw fel Mezzo Soprano ar lwyfannau ar draws y byd ac fel Cyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy. Mae’r ddwy gyfeilyddes, Alice Evans ac Ann Jones, yn bianyddion ac organyddion profiadol.

Mae’r côr yn gweithio’n galed o fewn y cymunedau er budd elusennau lleol a chenedlaethol. Dan arweiniad Ann, cynhaliwyd cyfres o gyngherddau mawr elusennol bob dwy flynedd, gydag artistiaid proffesiynol a chydweithrediad corau lleol eraill, yn enwedig Côr Meibion Froncysyllte a Chôr Merched Edeyrnion. Dros y blynyddoedd llwyddwyd i godi £16,500 er budd cronfeydd Ymchwil Sglerosis Ymledol, Ymchwil Cancr ac Ymchwil Clefyd Parkinson. Derbyniodd y côr Wobr Efydd am godi arian gan y Gymdeithas Sglerosis Ymledol..